Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal magu anifeiliaid dan amodau annaturiol ac mewn amgylcheddau annaturiol.
Mae dyn wedi ymyrryd gormod â’n cadwyn fwyd am lawer gormod o amser. Pe bai’r Llywodraeth a’r archfarchnadoedd yn ymddwyn yn fwy cyfrifol ac yn rhoi’r gorau i’r syniad creulon ac afresymol hwn byddem yn dod o hyd i’n lefelau ein hunain yn naturiol. Mae hyn i gyd yn digwydd oherwydd un rheswm - trachwant dyn.
Prif ddeisebydd: Jeanii Colbourne
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ebrill 2014
Nifer y llofnodion: 23